Cymorth TG
Mae'r wefan hon wedi'i chynllunio er mwyn helpu sefydliadau bach a chanolig eu maint i sefydlu a chynnal y lefelau priodol o ddiogelwch ar gyfer systemau TG, dyfeisiau, busnesau a chyflogeion rhag materion sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein a diogelwch gwybodaeth. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae hefyd angen i chi gael cymorth ar gyfer eich technoleg ... cyfrifiaduron a gweinyddion, dyfeisiau symudol, seilwaith, meddalwedd a chanolwedd. Mae'n hanfodol gwybod ble i gael cyngor o'r fath ... yn ogystal â chael ffynhonnell ddibynadwy o help os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Dylech ganfod ac ymgysylltu â chyflenwr cymorth TG dibynadwy sydd wedi cael ei argymell gan rywun rydych yn ymddiried ynddo, ac sy'n gallu dangos galluogrwydd cadarn i ddarparu cyngor ar ddiogelwch ac ar ddatrys problemau.
Awgrymiadau Defnyddiol Get Safe Online...
-
Wrth ddewis partner cymorth TG, gofynnwch am argymhellion gan gydweithwyr / cysylltiadau rydych yn ymddiried ynddynt, a gwiriwch eu henw da.
-
Dewiswch bartner cymorth sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad sy'n berthnasol i'r dechnoleg y mae angen cymorth ar ei chyfer.
Dewis partner cymorth
-
Gofynnwch i gydweithwyr, cyflenwyr, sefydliadau masnach a chwmnïau eraill pwy maen nhw'n ei ddefnyddio.
-
Chwiliwch ar-lein am 'Gymorth TG' yn eich ardal.
Chwiliwch drwy gyfeiriaduron o arbenigwyr ardystiedig yn y dechnoleg y bydd angen cymorth ar ei chyfer. Er enghraifft, ar gyfer cynhyrchion Microsoft neu Apple, chwiliwch drwy eu cyfeiriadur o bartneriaid sy'n meddu ar gymwysterau fel Microsoft Certified Solutions Expert (MCSE) neu Apple Certified Support Proffesional (ACSP)
-
Chwiliwch am y canlynol:
-
Tystiolaeth o brofiad perthnasol.
-
Rhywun a all eich helpu wrth i chi dyfu neu wrth i'ch anghenion newid.
-
Pobl sy'n deall eich caledwedd a'ch meddalwedd.
-
Cyfeiriadau ac argymhellion.
-
Dealltwriaeth o fusnes yn ogystal â thechnoleg.
-
Pobl a all siarad eich iaith, sy'n egluro problemau mewn ffordd rydych yn ei deall.
-
Cwmnïau sydd â digon o adnoddau i ddiwallu eich anghenion.
Yng nghyd-destun cymorth seiberddiogelwch a gwybodaeth, os gallwch ddod o hyd i ddarparwr sy'n meddu ar y cymwysterau perthnasol ac sy'n aelod o gorff diwydiannol, gallech ddefnyddio'r darparwr hwnnw ar gyfer eich gofynion cymorth diogelwch TG a seiber / gwybodaeth.
Cytundebau cymorth
Mae angen cytundeb ysgrifenedig arnoch – neu gontract cyfreithiol – sy'n diffinio mewn Saesneg plaen:
-
Beth yn union y bydd y darparwr cymorth yn ei wneud i chi – a beth maen nhw'n disgwyl i chi ei wneud eich hun.
-
Amserlen ar gyfer unrhyw waith prosiect a gaiff ei gynnal, er enghraifft pa mor hir y bydd yn ei gymryd i osod gweinydd newydd neu ddadgomisiynu hen un yn llwyr.
-
Cytundeb lefel gwasanaeth – pa mor gyflym y byddant yn ymateb i broblemau a'u datrys.
-
Pa lefel o gymorth ar ôl gwerthu y gallwch ei ddisgwyl os yw cyflenwi cyfarpar yn rhan o'r cytundeb.
-
Yn ddelfrydol, dadansoddiad cam wrth gam o unrhyw brosiect y byddant yn ei gynnal.
-
Strwythur ac amcangyfrif clir o ffioedd, p'un a yw'n gyfradd sylfaenol neu'n seiliedig ar gyfradd ddyddiol