Eich Gwybodaeth a’ch Facebook
Mae gan Facebook – rhwydwaith cymdeithasol mwyaf poblogaidd y byd – fwy na 2 biliwn o aelodau ledled y byd. Mae'n cael refeniw o hysbysebu: os ydych erioed wedi ystyried sut mae cynhyrchion rydych wedi dangos diddordeb ynddynt yn ymddangos yn yr hysbysebion a'r postiadau ar eich tudalen, mae'n gyfuniad o dechnolegau gwahanol a ddefnyddir i'ch targedu ar gyfer yr hysbyseb hon. Cafwyd pryder eang ynghylch sut mae Facebook yn defnyddio ac yn rhannu eich data, a pha ddata mae'n ei gadw amdanoch mewn gwirionedd. Gallwch ofyn am gael gweld ffeil gyfan o'r data a ddelir. Mae'r dudalen hon yn rhestru'r categorïau o ddata, ac yn egluro'n syml sut y gallwch gael gwybod pa wybodaeth a ddelir amdanoch, naill ai ar eich cyfrifiadur neu drwy ap Facebook.
EICH GWYBODAETH
Postiadau: Postiadau rydych wedi'u rhannu ar Facebook, postiadau sydd wedi'u cuddio oddi ar eich llinell amser a phleidleisiau rydych wedi'u creu
Lluniau: Lluniau rydych wedi'u lanlwytho a'u rhannu
Fideos: Fideos rydych wedi'u lanlwytho a'u rhannu
Sylwadau: Sylwadau rydych wedi'u rhannu ar eich postiadau eich hun, ar bostiadau pobl eraill neu mewn grwpiau rydych yn perthyn iddynt
Hoffi ac ymateb Postiadau, sylwadau a thudalennau rydych wedi'u hoffi neu wedi ymateb iddynt
Ffrindiau: Y bobl rydych yn gysylltiedig â nhw ar Facebook
Dilyn a dilynwyr: Pobl, sefydliadau neu fusnesau rydych yn dewis gweld cynnwys ganddynt, a phobl sy'n eich dilyn chi
Negeseuon: Negeseuon rydych wedi'u cyfnewid â phobl eraill ar Messenger
Grwpiau: Grwpiau rydych yn perthyn iddynt, grwpiau rydych yn eu rheoli, a'ch postiadau a'ch sylwadau o fewn y grwpiau rydych yn perthyn iddynt
Digwyddiadau: Eich ymatebion i ddigwyddiadau a rhestr o'r digwyddiadau rydych wedi'u creu
Gwybodaeth proffil: Eich gwybodaeth gyswllt, gwybodaeth rydych wedi'i hysgrifennu yn eich adran 'Amdanoch chi' yn eich proffil a digwyddiadau yn eich bywyd
Tudalennau: Tudalennau rydych yn eu gweinyddu
Marketplace: Eich gweithgarwch ar Marketplace
Hanes talu: Hanes o daliadau a wnaed gennych drwy Facebook
Eitemau wedi'u cadw:Rhestr o'r postiadau rydych wedi'u cadw
Eich lleoedd: Rhestr o'r lleoedd rydych wedi'u creu
Apiau: Apiau rydych wedi'u gosod ac apiau rydych yn eu gweinyddu
Gweithgarwch arall: Gweithgarwch sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif, fel 'prociadau' a roddwyd ac a gafwyd
Hysbysebion: Pynciau hysbysebion sydd fwyaf perthnasol i chi, hysbysebwyr sydd wedi casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych a gwybodaeth rydych wedi'i chyflwyno i hysbysebwyr
Hanes chwilio: Hanes o'ch chwiliadau ar Facebook
Hanes lleoliad: Hanes o union leoliadau a nodwyd drwy wasanaethau lleoliad ar eich dyfais
Galwadau a negeseuon: Cofnod o'r galwadau a'r negeseuon rydych wedi dewis eu rhannu yng ngosodiadau eich dyfais
Amdanoch chi: Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif Facebook
Gwybodaeth diogelwch a mewngofnodi: Hanes o'ch gweithgarwch mewngofnodi, allgofnodi, cyfnodau y buoch yn weithgar ar Facebook a'r dyfeisiau a ddefnyddir gennych i gael mynediad i Facebook.
Gwybodaeth am rwydweithiau: Gwybodaeth am y rhwydweithiau a ddefnyddir gennych.
SUT I LAWRLWYTHO'R WYBODAETH A DDELIR AMDANOCH
Ar eich cyfrifiadur
1. Ar eich 'prif' dudalen (llinell amser, wal?), dewch o hyd i'r saeth sy'n anelu am i lawr ar ochr dde y band glas tywyll ar y brig.
2. Cliciwch ar y saeth a dewiswch 'Gosodiadau' o'r brif gwymplen. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Dewisiadau Cyffredinol Cyfrif'.
3. Yn y golofn ar y chwith, cliciwch ar 'Your Facebook Information'. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Your Facebook Information'.
4. Cliciwch ar 'Lawrlwytho eich gwybodaeth'. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Download your information'.
5. Bydd y tab 'New file' wedi'i ddewis yn ddiofyn os nad ydych wedi lawrlwytho'r wybodaeth o'r blaen. Dewiswch y categorïau o wybodaeth rydych am eu lawrlwytho yn ofalus, a'r ystod o ddyddiadau yr hoffech i'r wybodaeth ei chwmpasu. Nodwch, os byddwch yn clicio ar ddyddiad hanesyddol o'r calendr 'o', mae angen i chi wirio'r flwyddyn ar y calendr 'i' fel nad yw'n troi i'r un flwyddyn â'r calendr 'o' yn ddiofyn.
6. Rydym yn argymell i chi gadw'r fformat 'HTML' a'r ansawdd cyfryngau 'Uchel'. Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Create File'.
7. Byddwch yn cael e-bost Facebook yn cydnabod y cais, yna un arall i roi gwybod i chi bod eich ffeil wybodaeth ar gael.
8. Drwy glicio ar ddolen yn yr ail e-bost, byddwch yn mynd i'r dudalen 'Download your information'. Drwy glicio ar y botwm 'Download', bydd neges yn ymddangos yn gofyn am eich cyfrinair. Nodwch eich cyfrinair a dewiswch 'OK' a bydd eich gwybodaeth yn cael ei lawrlwytho mewn ffeil .zip.
Ar eich ap Facebook
1. Cyffyrddwch y ddewislen (eicon tair llinell) ar waelod eich sgrin, yna sgroliwch i 'Settins & Privacy'
2. Dewiswch 'Settings'
3. Sgroliwch i lawr i 'Your Facebook information' a dewiswch 'Download your information'.
4. Bydd y tab 'New file' wedi'i ddewis yn ddiofyn os nad ydych wedi lawrlwytho'r wybodaeth o'r blaen. Dewiswch y categorïau o wybodaeth rydych am eu lawrlwytho yn ofalus, a'r ystod o ddyddiadau yr hoffech i'r wybodaeth ei chwmpasu. Rydym yn argymell i chi gadw'r fformat 'HTML' a'r ansawdd cyfryngau 'High'. Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Create File'.
5. Byddwch yn cael e-bost Facebook yn cydnabod y cais, yna un arall i roi gwybod i chi bod eich ffeil wybodaeth ar gael.
6. Drwy glicio ar ddolen yn yr ail e-bost, byddwch yn mynd i'r dudalen 'Download your information'. Drwy glicio ar y botwm 'Download', bydd neges yn ymddangos yn gofyn am eich cyfrinair. Nodwch eich cyfrinair a dewiswch 'OK' a bydd eich gwybodaeth yn cael ei lawrlwytho mewn ffeil .zip.