Blacmel Gwegamera
Fel arfer, mae blacmel gwe-gamera yn cynnwys pobl yn cael eu hannog i dynnu rhai o'u dillad neu eu holl ddillad o flaen eu gwe-gamera, dim ond i gael gwybod eich bod wedi cael eich recordio ac y caiff y fideo ei rannu ar-lein a/neu ei ddangos i gysylltiadau'r dioddefwr oni chaiff ffi ei thalu – swm sylweddol o arian fel arfer. Weithiau, bydd y dioddefwr hefyd yn cael ei annog i gyflawni gweithredoedd preifat.
Dechrau arni...
-
Peidiwch â chael eich annog i dynnu eich dillad na chyflawni gweithredoedd rhywiol o flaen eich gwe-gamera.
-
Os byddwch yn cael eich targedu, peidiwch â thalu unrhyw ffioedd ond cofiwch roi gwybod am y drosedd, ni waeth faint o gywilydd y byddwch yn ei deimlo ar y pryd.
Nid oes unrhyw sicrwydd unwaith y bydd gorchymyn y blacmel wedi'i gyflawni, na fydd rhagor o orchmynion, neu na fydd y troseddwr yn rhannu'r fideo beth bynnag. Gall y canlyniadau amrywio o gywilydd i warth ac mewn achosion eithafol, at achosion o hunan-niweidio neu hyd yn oed hunanladdiad. Gall dynion a merched o unrhyw oed fod yn ddioddefwyr.
Am fod pobl sy'n cyflawni blacmel gwe-gamera yn aml wedi'u lleoli dramor, mae'n anodd iawn dod o hyd iddynt a'u harestio.
Y risgiau
-
Rydych yn meithrin perthynas ar-lein ac ar ôl cyfnod o ddod i adnabod eich gilydd, gofynnir i chi dynnu eich dillad a/neu gyflawni gweithredoedd rhywiol ar eich gwe-gamera. Gang o droseddwyr neu dwyllwr yn gweithio ar ei ben ei hun yw eich cariad seiber mewn gwirionedd.
-
Rydych yn tynnu eich dillad fel her gyda ffrindiau, dim ond i gael eich blacmelio naill ai gan bobl rydych yn eu hadnabod, neu os bydd y fideo neu'r lluniau yn mynd i'r dwylo anghywir.
-
Gallech gael gorchmynion i dalu arian os na fyddwch yn cydymffurfio, a/neu gallai'r person sy'n cyflawni blacmel droi'r amgylchiadau a rhoi gwybod i'r awdurdodau amdanoch am, er enghraifft, feithrin perthynas amhriodol ar-lein neu droseddau rhywiol yn erbyn plant.
Osgoi Blacmel Gwe-gamera
-
Peidiwch â chael eich denu i sefyllfaoedd peryglus fel tynnu eich dillad neu gyflawni gweithredoedd preifat ar-lein. Wyddoch chi ddim pwy all weld y delweddau.
-
Cofiwch ei bod yn bosibl y bydd rhywbeth sy'n cael ei rannu ar-lein yn aros ar-lein.
-
Byddwch yn wyliadwrus ynghylch pwy rydych yn eu gwahodd neu'n derbyn gwahoddiadau ganddynt ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Peidiwch â derbyn ceisiadau ffrindiau gan ddieithriaid llwyr ... fyddech chi ddim yn gwneud hyn yn y byd go iawn.
-
Diweddarwch y gosodiadau priefatrwydd ar eich cyfrifon rhwydweithio cymdeithasol fel mai dim ond pobl rydych yn eu hadnabod sy'n gallu gweld eich cyfrif.
-
Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth sensitif, preifat na chyfrinachol mewn proffiliau.
-
Os byddwch yn defnyddio safleoedd caru ar-lein, dewiswch rai sy'n cynnig y gallu i e-bostio darpar gariadon gan ddefnyddio gwasanaeth sy'n cuddio cyfeiriadau e-bost go iawn.
-
Hefyd ar safleoedd caru, defnyddiwch gyfrif e-bost ar wahân nad yw'n defnyddio eich enw go iawn. Mae hyn yn syml iawn ac yn gyflym i'w wneud gan ddefnyddio darparwyr fel Hotmail, Yahoo! Mail neu gmail.
-
Blociwch ddefnyddwyr twyllodrus a niwsans rhag cysylltu â chi eto yn ddi-oed a rhowch wybod am yr hyn maent yn ei wneud.
-
Os byddwch yn cael eich targedu gan y math hwn o sgam, peidiwch ag ymateb i orchmynion y person sy'n eich blacmelio. Rhowch wybod i'r heddlu a'r safle rhwydweithio cymdeithasol.
-
Os byddwch yn meddwl bod rhywun wedi eich darbwyllo i rannu manylion talu, cysylltwch â'ch banc neu ddyroddwr eich cerdyn ar unwaith.