Ransomware
Math o faleiswedd yw meddalwedd wystlo sy'n rhoi'r gallu i droseddwyr gloi cyfrifiadur o leoliad o bell – yna mae ffenest naid yn ymddangos sy'n rhoi gwybod i'r perchennog na chaiff ei ddad-gloi nes y bydd swm o arian wedi'i dalu. Mewn rhai achosion, yr unig ran o'r cyfrifiadur y gellir ei ddefnyddio yw'r bysellfwrdd rhifau er mwyn rhoi PIN i'ch galluogi i dalu'r troseddwyr. Y math mwyaf cyffredin o feddalwedd wystlo yn ddiweddar yw CryptoLocker a WannaCry. Un tro ychwanegol yw bod cyhuddiad o weithgaredd anghyfreithlon neu ddelwedd bornograffig yn ymddangos ar y sgrin sydd wedi'i gloi, sy'n ei gwneud yn anoddach i rai defnyddwyr geisio help gan unrhyw un arall, a phenderfynu talu'r bridwerth.
Os ydych yn chwilio am wybodaeth benodol am WannaCry...
-
Ewch i'n tudalen newyddion a chyngor ar yr ymosodiad meddalwedd wystlo WannaCry a lansiwyd ym mis Mai 12 2017.
Y risgiau
Gallai meddalwedd wystlo fel CryptoLocker neu WannaCry heintio eich cyfrifiadur pan fyddwch yn gwneud y canlynol yn anfwriadol:
-
Agor atodiad maleisus mewn e-bost.
-
Clicio ar ddolen faleisus mewn neges e-bost, neges uniongyrchol, safle rhwydweithio cymdeithasol neu wefan arall.
-
Ymweld â gwefan lwgr – yn aml mae'r rhain o natur bornograffig.
-
Agor ffeiliau wedi'u heintio gan gwmnïau dosbarthu ffeiliau digidol ar y we (er enghraifft Hightail – YouSendIt gynt, a Dropbox).
-
Agor macros llwgr mewn dogfennau cymwysiadau (prosesu geiriau, taenlenni ac ati).
-
Cysylltu dyfeisiau cyswllt USB llwgr (e.e. cofau bach, gyriannau caled allanol, chwaraewyr MP3).
-
Rhoi CDs/DVDs llwgr yn eich cyfrifiadur.
Osgoi Meddalwedd Wystlo
-
Peidiwch ag ateb i e-byst digymell na sbam gan gwmnïau neu unigolion nad ydych yn eu hadnabod na chlicio ar ddolenni yn yr e-byst hynny.
-
Dim ond gwefannau rydych yn gwybod eu bod nhw'n ddilys y dylech ymweld â nhw.
-
Dylech bob amser ddiweddaru meddalwedd ac apiau – yn cynnwys systemau gweithredu – cyn gynted ag y cewch eich annog i wneud hynny.
-
Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi'i ddiweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
-
Gwnewch gopi wrth gefn o'ch oll ddata yn rheolaidd, yn cynnwys i ddyfais wedi'i chysylltu ag USB sydd wedi'i storio o bell o'ch cyfrifiadur. Mae hyn oherwydd y gall meddalwedd wystlo penodol hefyd heintio eich storfa cwmwl.
Os oes gennych feddalwedd wystlo ar eich cyfrifiadur
-
Er mwyn canfod a dileu meddalwedd wystlo a meddalwedd faleisus arall a all fod wedi'u gosod ar eich cyfrifiadur, rhedwch sgan system lawn gyda datrysiad diogelwch priodol cyfredol.
-
Os yw eich cyfrifiadur wedi cael ei gloi gan feddalwedd wystlo, ceisiwch gyngor proffesiynol o ffynhonnell ddibynadwy.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â'r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.