Twyll Eiddo
Mae twyll eiddo yn digwydd pan fydd twyllwyr yn gwerthu neu'n morgeisio eich eiddo heb eich cydsyniad.
Dechrau arni...
-
Sicrhewch fod eich eiddo wedi ei gofrestru â Chofrestrfa Tir EM.
Fel arfer, eiddo yw'r ased mwyaf gwerthfawr rydych yn berchen arno a gellir ei werthu a'i forgeisio er mwyn codi arian. Felly, mae'n darged deniadol i dwyllwyr, a all ddwyn eich hunaniaeth i ddechrau ac yna esgus mai chi ydyn nhw er mwyn cyflawni'r dwyll. Os na chaiff hyn ei ddatgelu ar unwaith, efallai y byddwch chi fel y gwir berchennog yn gweld nad yw eich eiddo yn eich enw mwyach neu fod morgais yn ei erbyn. Gall datrys y broblem a dileu unrhyw forgais fod yn ofidus, yn llafurus ac yn gostus.
Rydych yn wynebu mwy o risg os bydd y canlynol yn berthnasol:
-
Mae eich hunaniaeth wedi'i dwyn
-
Rydych yn rhoi eich eiddo ar rent
-
Rydych yn byw dramor
-
Mae'r eiddo yn wag
-
Nid yw'r eiddo wedi'i forgeisio
-
Nid yw'r eiddo wedi'i gofrestru* â Chofrestrfa Tir EM**
* Caiff eich eiddo ei gofrestru os gwnaethoch ei brynu neu ei forgeisio ers 1998 – edrychwch ar y gofrestr os nad ydych yn siŵr.
** Mae Cofrestrfa Tir EM yn cofrestru perchenogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Diogelu rhag twyll eiddo
-
Sicrhewch fod eich eiddo wedi ei gofrestru â Chofrestrfa Tir EM. Os ydych yn ddioddefwr diniwed twyll ac yn dioddef colled ariannol, gallwch gael iawndal. Os nad yw eich eiddo wedi'i gofrestru, nid yw'r iawndal yn daladwy.
-
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gwnewch yn siŵr fod eich manylion cyswllt wedi'u diweddaru fel y gallwch eu cyrraedd.Gallwch gofrestru hyd at dri chyfeiriad yn cynnwys cyfeiriad e-bost a chyfeiriad tramor. Os nad yw eich manylion wedi'u diweddaru, efallai na fyddwch yn derbyn llythyr neu e-bost Cofrestrfa Tir EM os bydd yn ceisio cysylltu â chi.
-
Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth Rhybudd Eiddo Cofrestrfa Tir EM er mwyn monitro hyd at ddeg eiddo a helpu i ddiogelu rhag twyll.Bydd yn anfon e-bost rhybudd i chi pan geir gweithgarwch penodol, er enghraifft os bydd rhywun yn ceisio trefnu morgais arno. Yna, gallwch benderfynu p'un a yw'r gweithgarwch yn amheus a chael cyngor pellach os bydd angen.
-
Cofrestrwch gyfyngiad (am ddim os nad ydych yn byw yn yr eiddo) sydd â'r bwriad o atal gweithgarwch megis trosglwyddiad neu forgais, oni bai bod trawsgludwr neu gyfreithiwr yn cadarnhau bod y cais wedi ei wneud gennych chi.
Rhagor o wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth a chyngor ar wefan Cofrestrfa Tir EM drwy glicio yma.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll eiddo
Cysylltwch â llinell twyll eiddo Cofrestrfa Tir EM drwy anfon e-bost i [email protected] neu drwy ffonio 0300 006 7030 rhwng 08:30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch hefyd:
Mae'r cyngor hwn wedi'i lunio gyda chymorth caredig Cofrestrfa Tir EM.