Benthyciadau Diwrnod Cyflog
Mae benthyciadau diwrnod cyflog yn eich galluogi i fenthyca symiau cymharol fach o arian am gyfnod byr – o ychydig ddiwrnodau i hyd at fis, nes i chi gael eich talu y mis canlynol. Mae benthyciadau diwrnod cyflog ar gael o safleoedd rhyngrwyd a siopau stryd fawr, ac maent yn hawdd i'w cael ond mae'r cyfraddau llog yn uwch nag ar gyfer mathau eraill o fenthyciad – weithiau dros 2,000% APR (cyfradd ganrannol flynyddol). Mae hyn yn golygu y dylech feddwl yn ofalus cyn ymrwymo i fenthyciad diwrnod cyflog a ph'un a allwch fforddio i'w ad-dalu ar neu cyn y dyddiad dyledus..
Dechrau arni...
-
Os ydych yn ystyried cael benthyciad diwrnod cyflog, byddwch yn hollol glir ynghylch y cytundeb rydych yn ymrwymo iddo, a'ch rhwymedigatehau ad-dalu.
-
Dylech bod amser ddiogelu eich hunaniaeth a dilyn y rheolau diogelwch ar-lein sylfaenol er mwyn osgoi cael eich targedu gan sgam benthyciad diwrnod cyflog.
Y dull ad-dalu mwyaf cyffredin yw drwy eich cerdyn debyd, lle rydych yn cytuno i adael i'r benthyciwr gymryd yr arian o'ch cyfrif banc, a elwir yn awdurdod talu parhaus (CPA). Os nad oes digon o arian yn eich cyfrif i ad-dalu'r benthyciad ar y diwrnod y cytunwyd arno, gall y benthyciwr ofyn i'ch banc am yr holl arian neu rywfaint ohono, a bydd hefyd yn ychwanegu costau am daliadau hwyr.
Mae twyll benthyciadau diwrnod cyflog yn dod yn fwyfwy cyffredin, a gynorthwyir mewn rhai achosion gan archwiliadau diogelwch sy'n ymddangos yn annigonnol gan fenthycwyr penodol. Oni allwch brofi nad chi sydd wedi trefnu'r benthyciad, efallai y cewch eich ymlid yn ddi-baid am y ddyled ynghyd â llog a thaliadau eraill o bosibl.
Y risgiau
Cael benthyciad diwrnod cyflog i'ch cynnal dros dro, dim ond i sylweddoli na allwch ad-dalu'r swm yn llawn ar y dyddiad dyledus.
-
Cael benthyciad diwrnod cyflog i'ch cynnal dros dro, dim ond i sylweddoli na allwch ad-dalu'r swm yn llawn ar y dyddiad dyledus.
-
Cael eich denu gan pa mor gyflym a hawdd y gellir cael benthyciad heb ystyried y costau na'r risgiau, am fod angen yr arian arnoch ar frys.
-
Gorfod talu cyfraddau llog uwch a ffioedd trefnu er mwyn ymestyn benthyciad diwrnod cyflog.
-
Cael eich ymlid yn fygythiol am ad-daliadau gan rai benthycwyr.
-
Peidio â bod yn glir ynghylch yr APR na'r swm llog ariannol gwirioneddol sy'n gysylltiedig â'r benthyciad.
-
Wynebu anawsterau ariannol a gofid cynyddol.
-
Os nad oedd gennych unrhyw gwynion, efallai eich bod wedi cael eich trin yn deg gan rai benthycwyr.
-
Rhywun yn trefnu benthyciad diwrnod cyflog yn dwyllodrus yn eich enw, a'i dalu i mewn i gyfrif banc y twyllwr.
-
CPA yn cael ei drefnu yn dwyllodrus yn erbyn eich cerdyn debyd.
Cyngor ar Fenthyciadau Diwrnod Cyflog
-
Meddyliwch yn ofalus cyn trefnu benthyciad diwrnod cyflog ac ystyriwch ffyrdd eraill o ddatrys eich problemau ariannol tymor byr neu dymor hwy fel benthyciad undeb credyd, gorddrafft neu'r Gronfa Gymdeithasol.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod yn llwyr ymwybodol o delerau'r benthyciad yn cynnwys cyfradd llog, cyfnod ad-dalu a chosbau am daliadau hwyr neu fethu â thalu.
-
Chwiliwch am y fargen orau a chymharwch y costau a'r amodau.
-
Byddwch yn ymwybodol o'ch hawliau a ble i fynd am help os bydd gennych broblem.
-
Pwyllwch rhag ymestyn benthyciad diwrnod cyflog oherwydd bydd yn costio hyd yn oed mwy o arian i chi.
-
Ystyriwch gyfarwyddo'r banc neu ddarparwr eich cerdyn i atal y taliad rhag cael ei gymryd cyn y dyddiad dyledus, os na allwch fforddio ad-dalu'r benthyciad.
-
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael cyngor diduedd ar gredyd a debyd.
-
Cysylltwch â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu asiantaeth cyngor dielw arall ar ddyledion os ydych yn cael trafferth gwneud ad-daliadau a bod angen help arnoch.
-
Dylech bob amser ddiogelu eich hunaniaeth ar-lein ac all-lein er mwyn gwneud yn siŵr na fydd twyllwyr yn ei dwyn er mwyn trefnu benthyciadau diwrnod cyflog a thrafodion eraill yn eich enw.
Os ydych wedi Wynebu Sgam Benthyciad Diwrnod Cyflog
-
Darllenwch eich trafodion banc yn ofalus ac yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael gwybod cyn gynted â phosibl os bydd arian wedi cael ei gymryd o'ch cyfrif i ad-dalu benthyciad na wnaethoch ei drefnu eich hun. Os byddwch yn gweld trafodion amheus, rhowch wybod i'ch banc ar unwaith, a'r cwmni benthyca dan sylw.
-
Dylech ystyried cynnal chwiliad adroddiad credyd i weld a oes unrhyw geisiadau eraill wedi'u gwneud gan ddefnyddio eich manylion.
-
Os bydd benthyciwr yn eich ymlid am ddyled nad yw'n ddyledus gennych, ysgrifennwch at y benthyciwr a, lle y bo'n briodol, yr asiantaeth casglu dyledion, gan egluro pam mae'r taliad yn cael ei wrthod. Os na chewch ymateb boddhaol, cwynwch wrth y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol sy'n cynnig gwasanaeth datrys anghydfodau annibynnol yn rhad ac am ddim.
-
Os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef twyll: Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk .
A chofiwch am yr awgrymiadau diogelwch sylfaenol hyn bob amser ...
-
Defnyddiwch gyfrineiriau cryf. Peidiwch byth â datgelu eich cyfrineiriau i gael mynediad i wefan neu i wneud taliadau ar-lein i neb.
-
Os byddwch yn meddwl bod unrhyw un o'ch cyfrifon talu ar-lein wedi cael eu peryglu, gweithredwch ar unwaith. Darllenwch dudalennau cymorth ar-lein gwefannau.
-
Pwyllwch cyn clicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost digymell. Er enghraifft, mae'n well rhoi cyfeiriad gwefan eich banc yn uniongyrchol yn eich porwr, neu ddefnyddio nod tudalen a grëwyd gennych gan ddefnyddio'r cyfeiriad cywir.
-
Os byddwch yn talu â cherdyn talu, cofiwch fod cerdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
-
Wrth dalu naill ai drwy wasanaeth talu ar-lein neu gan ddefnyddio cerdyn talu, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn tair ffordd:
-
Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy'n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw'r clo clap ar y dudalen ei hun ... mae'n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
-
Dylai'r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae'r 's' yn golygu ei bod yn ddiogel.
-
Os ydych yn defnyddio fersiwn ddiweddaraf eich porwr, bydd y bar cyfeiriad neu enw perchennog y safle yn troi'n wyrdd.
-
Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cofrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
-
Cadwch dderbynebau.
-
Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i'r trafodyn.
-
Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.