Chwarae Gemau Ar-lein
Caiff llawer o gemau cyfrifiadurol eu chwarae ar-lein yn erbyn chwaraewyr eraill dros y rhyngrwyd, p'un a yw hynny ar gonsol, cyfrifiadur, dyfais symudol neu drwy safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mabwysiadu hunaniaeth ffug wrth chwarae, felly fel arfer fyddwch chi ddim yn gwybod pwy ydyn nhw mewn gwirionedd. Gall fod risgiau ariannol cudd wrth lawrlwytho a chwarae gemau ar y we ac ar apiau.
Dechrau arni...
-
Drwy fod yn wyliadwrus, ynghyd â meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd wedi'i diweddaru, cewch eich helpu i fwynhau chwarae gemau'n ddiogel.
-
Peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol.
-
Peidiwch â chwarae am ormod o oriau mewn un sesiwn – gallech fynd yn gaeth.
Er mwyn ychwanegu dimensiwn ychwanegol i'r elfen amlchwaraewr, mae chwaraewyr yn aml yn cyfathrebu drwy sgwrs integredig neu ar lafar gyda microffon neu glustffonau. Mae llawer o gemau – o gemau syml o wyddbwyll a chardiau i gemau saethu ac antur person cyntaf lle mae miloedd o chwaraewyr yn cymryd rhan ar yr un pryd – yn cynnwys y nodweddion hyn. Yn gynyddol, mae gemau ar-lein yn cynnwys gwario arian go iawn er mwyn prynu eiddo yn y gêm.
Y Risgiau
-
Mewn Gemau Chwarae Rôl Ar-lein gyda Llawer o Chwaraewyr (MMORPGs neu MMOs), gall presenoldeb cymuned ar-lein mor fawr o ddieithriaid dienw a'r trafodaethau na chânt eu hidlo na'u cymedroli, arwain at amrywiaeth o risgiau posibl fel:
-
Rhannu gwybodaeth bersonol yn anfwriadol neu'n fyrbwyll, yn cynnwys cyfrinair, cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad cartref neu oedran.
-
Yr holl beryglon sy'n gysylltiedig ag ystafelloedd sgwrsio ar-lein.
-
Lawrlwytho 'cafflwyr' sy'n honni eu bod yn gallu eich helpu ond a all gynnwys firysau/ysbïwedd mewn gwirionedd.
-
Lawrlwytho copïau dynwaredol o gemau, neu eu cael mewn ffordd arall, a all arwain at gosbau yn cynnwys atal cyfrif dros dro, blocio consolau rhag cael mynediad i weinydd y gweithgynhyrchydd neu erlyn.
-
Bod yn wyliadwrus o droseddwyr wrth brynu neu werthu eiddo rhithwir, mewn gemau – er enghraifft cymeriadau lefel uchel – os oes arian go iawn dan sylw.
-
'Poenydio' (griefing) pan fydd chwaraewyr yn eich targedu yn benodol er mwyn gwneud eich profiad o chwarae gemau yn llai pleserus.
-
Gwaredu consolau gemau, cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol heb fod wedi dileu eich gwybodaeth bersonol a manylion eich cyfrif.
-
Lawrlwytho gemau 'am ddim' ar y we ac ar apiau lle mae'n rhaid i chi dalu er mwyn cael mynediad i'r cynnwys cyfan.
-
Chwarae gemau am sawl awr ar y tro gyda'r perygl o fynd yn gaeth.
Chwarae Gemau'n Ddiogel
-
Dim ond pan fydd gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi'i diweddaru a wal dân yn rhedeg y dylech chwarae gemau ar-lein.
-
Dim ond fersiynau awdurdodedig o gemau rydych wedi'u prynu o'r ffynonellau cywir ac y mae gennych drwydded ar eu cyfer y dylech eu chwarae.
-
Gwiriwch ddilysrwydd a diogelwch ffeiliau sydd wedi'u lawrlwytho a meddalwedd newydd drwy brynu o ffynonellau dibynadwy.
-
Dewiswch enw defnyddiwr nad yw'n datgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Yn yr un modd, os yw eich gêm yn cynnwys y gallu i greu proffil personol, gwnewch yn siŵr nad ydych yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.
-
Defnyddiwch gyfrineiriau cryf.
-
Peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol i chwaraewyr eraill.
-
Gwnewch yn siŵr fod y feddalwedd chwarae gemau yn gyfredol. Mae'r rhan fwyaf o gemau amlchwaraewr yn diweddaru eu hunain cyn gadael i chi gysylltu. Byddwch yn wyliadwrus iawn ynghylch lawrlwytho unrhyw raglen anawdurdodedig sy'n ymwneud â'r gêm.
-
Cadwch lygad am sgamiau ac achosion o dwyllo wrth brynu neu werthu 'eiddo' sy'n bodoli mewn gêm gyfrifiadurol, yn y byd go iawn.
-
Darllenwch delerau ac amodau'r gweithgynhyrchydd neu'r cwmni sy'n ei gynnal er mwyn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw daliadau cudd uniongyrchol neu yn y dyfodol.
-
Wrth waredu eich dyfais chwarae gemau naill ai drwy ei gwerthu, ei sgrapio, ei rhoi i rywun arall neu ei rhoi'n rhodd, gwnewch yn siŵr fod eich holl wybodaeth bersonol wedi'i dileu. Mae'r dull o wneud hyn yn amrywio o ddyfais i ddyfais. Cofiwch ddileu manylion eich cyfrif, a chreu copi wrth gefn neu drosglwyddo eich gemau i'ch dyfais newydd os yw'n briodol.
-
Pennwch ganllawiau a rheolau sylfaenol i'ch plant wrth chwarae ar-lein.
Rhagor o Wybodaeth

Canllaw i rieni er mwyn cadw plant yn ddiogel wrth chwarae gemau ar-lein: http://www.everybodyplays.co.uk/parents-guide-to-games

Caiff gemau ar-lein gwahanol eu hesbonio mewn canllawiau fideo, yma: https://www.youtube.com/user/FamilyGamerTV

Caiff gemau ar-lein gwahanol eu hesbonio mewn canllawiau fideo, yma: https://www.youtube.com/user/FamilyGamerTV