Arian Mules
Wrth i droseddwyr chwilio am ffyrdd mwy soffistigedig o guddio enillion eu gweithgarwch anghyfreithlon, mae'r arfer o gludo arian yn dod yn fwy cyffredin.
Dechrau arni...
-
Peidiwch byth â chael eich temtio i drosglwyddo arian pobl eraill drwy eich cyfrif banc eich hun, ni waeth pa mor ddeniadol y mae'r gwobrwyon yn ymddangos.
-
Gwnewch yn siŵr fod unrhyw 'gwmni' tramor sy'n cynnig cyflogaeth fel 'cynrychiolydd yn y DU', 'asiant trosglwyddo arian' neu 'asiant prosesu taliadau' yn ddilys.

Gweler hefyd...
Preifatrwydd
Dylech gynnal eich preifatrwydd ac osgoi achosion o ddwyn hunaniaeth neu dwyll.
Chwilio am Swydd
Cyngor ar sut i chwilio am swydd ar-lein yn ddiogel.
Cludydd arian (money mule) yw person sy'n trosglwyddo arian sydd wedi'i ddwyn rhwng gwledydd gwahanol, yn aml heb sylweddoli eu bod yn cael eu defnyddio i gyflawni'r dwyll. Mae'n fath o wyngalchu arian. Daw'r ymadrodd o'r term 'cludydd cyffuriau', neu 'drugs mule', sef person a gaiff ei ddefnyddio i drosglwyddo cyffuriau ar ran delwyr.
Hyd yn oed os nad yw'r cludydd arian yn rhan o'r drosedd sy'n creu'r arian – ac nad yw'n ymwybodol ei fod yn delio ag arian anghyfreithlon – mae'n dal i weithredu'n anghyfreithlon.
Y risgiau
-
Rhywun yn cysylltu â chi i adneuo arian yn eich cyfrif banc ac yna ei drosglwyddo (fel arfer i wlad wahanol), naill ai yn gyfnewid am gomisiwn neu am eich bod wedi cael eich bygwth.
-
Cael cynnig 'swydd' sy'n cynnwys trosglwyddo arian drwy eich cyfrif banc eich hun.
-
Twyllwyr yn cael mynediad i'ch cyfrif banc er mwyn trosglwyddo arian sydd wedi'i ddwyn.
-
Cael eich canfod a'ch cyhuddo. Mae gan fanciau a'r heddlu gyfradd canfod uchel ar gyfer cludo arian a gall y cosbau fod yn ddifrifol, yn cynnwys tymor o garchar. Gall cael eich canfod yn euog o gludo arian hefyd effeithio'n ddifrifol ar eich cyflogaeth neu'ch lleoliad addysg, a'ch statws credyd yn y dyfodol.
Diogelu rhag Cludo Arian
-
Byddwch yn ofalus o gynigion gwaith sy'n cynnwys trosglwyddo arian pobl eraill i mewn ac allan o'ch cyfrif banc eich hun. Gwnewch yn siŵr fod unrhyw un sy'n cynnig gwaith i chi yn ddilys.
-
Byddwch yn ofalus o unrhyw negeseuon e-bost neu ddulliau eraill sy'n nodi eu bod gan gwmni tramor sy'n chwilio am 'gynrychiolwyr yn y DU', asiantau trosglwyddo arian' neu 'asiantau prosesu taliadau' i weithredu ar eu rhan am gyfnod o amser, weithiau er mwyn osgoi taliadau trafodion uchel neu drethi lleol.
-
Peidiwch byth â gadael i'ch cyfrif banc gael ei ddefnyddio gan rywun arall.
-
Peidiwch byth â datgelu eich manylion mewngofnodi i'ch cyfrif banc – eich enw defnyddiwr, cyfrinair a manylion awdurdodi – i unrhyw un drwy gynnig y wybodaeth iddynt na bod yn ddiofal ynghylch preifatrwydd.
-
Efallai fod ffrind neu aelod o'r teulu yn trosglwyddo arian i bobl eraill, ond nid yw'n golygu mai dyna'r peth cywir i'w wneud.
-
Ni waeth faint y mae angen yr arian arnoch, peidiwch â chytuno i gludo arian. A chofiwch ... os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol mai dyna yw'r gwirionedd.
Os byddwch yn amau bod rhywun wedi cysylltu â chi i fod yn gludydd arian
-
Peidiwch â chael eich temtio i gymryd rhan.
Rhagor o Wybodaeth
Os ydych eisoes wedi datgelu manylion eich cyfrif banc neu wedi cael arian yn eich cyfrif a'ch bod yn meddwl y gallai fod yn sgam cludo arian
-
Cysylltwch â'ch banc ar unwaith.
-
Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â'r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.