Taliadau Di-gyswllt
Mae technoleg ddigyffwrdd yn dod yn fwyfwy cyffredin fel ffordd o wneud taliadau neu anfon gwybodaeth.
Dechrau arni...
-
Cadwch ddyfeisiau talu a chardiau digyffwrdd yn ddiogel yn ffisegol er mwyn osgoi taliadau anfwriadol, neu rhag iddynt gael eu canfod gan dwyllwyr.
-
Cofiwch fod eich ffôn NFC yn gweithredu fel waled symudol, felly cymerwch ofal ychwanegol i'w amddiffyn.

Gweler hefyd...
Bancio
Cyngor syml ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein.
Taliadau Ar-lein
Popeth y mae angen i chi ei wybod am sut i gadw taliadau ar-lein yn ddiogel.
Mae'r broses – sydd wedi'i galluogi gan dechnoleg a elwir yn Gyfathrebu Maes Agos (NFC) – yn gweithio drwy sglodyn di-wifr sy'n cynnwys manylion cerdyn talu'r defnyddiwr, wedi'i ymgorffori mewn ffôn symudol (wedi'i nodi gan y symbol a ddangosir ar y dudalen hon) neu ar gerdyn talu. Mae'n galluogi defnyddwyr i wneud taliadau o hyd at £30 mewn siopau, caffis, darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac allfeydd eraill drwy chwifio eu ffôn clyfar neu gerdyn digyffwrdd dros ddarllennydd cerdyn addas, heb fod angen rhoi'r cerdyn i mewn na defnyddio PIN. Gellir defnyddio'r dechnoleg hefyd i drosglwyddo negeseuon hysbysebu neu wybodaeth i ffonau NFC pan fyddant yn pasio gerllaw darllennydd cerdyn neu boster wedi'i dagio mewn siop. Defnyddir technoleg NFC hefyd yn gyffredinol ar gyfer cardiau aelodaeth ac i reoli mynediad.
Er bod dulliau talu digyffwrdd yn gyflym ac yn gyfleus, mae defnyddwyr hefyd yn agored i broblemau diogelwch eiddo a diogelwch personol posibl.
Y risgiau
-
Talu am bwrcasiad rhywun arall yn ddiarwybod i chi pan fyddwch yn pasio eich ffôn neu gerdyn NFC dros ddarllennydd digyffwrdd pan fydd ei drafodyn yn cael ei brosesu.
-
Talu allan o'r cyfrif anghywir am fod y darllennydd cardiau yn dod o hyd i'r cerdyn anghywir.
-
Rhywun yn dwyn eich gwybodaeth ariannol – neu'n clonio eich cerdyn – am fod y signal di-wifr yn cael ei ryng-gipio gan dwyllwyr.
-
Y wybodaeth a anfonir gan eich ffôn NFC yn cael ei llygru neu ei haddasu gan drydydd parti wrth gael ei throsglwyddo.
-
Methu â gwneud taliadau os bydd batri eich ffôn NFC wedi marw.
-
Methu â gwneud taliadau os caiff eich ffôn NFC ei golli neu ei ddwyn.
-
Posibilrwydd o fethu â gwneud taliadau dramor oherwydd diffyg safonau cyffredin.
-
Eich gwybodaeth ariannol ddim yn cael ei dileu yn iawn pan fyddwch yn cael gwared ar eich ffôn NFC.
-
Eich sglodyn NFC yn cael ei ddileu o bell – naill ai mewn camgymeriad neu mewn ffordd faleisus.
Defnyddio Taliadau Digyffwrdd yn Ddiogel
-
Os oes gennych ffôn NFC, gwnewch yn siŵr ei fod bob amser yn cael ei gloi pan fydd yn segur gan ddefnyddio PIN, y dylech ei newid yn rheolaidd.
-
Cymerwch ofal ychwanegol i beidio â cholli na difrodi eich ffôn NFC oherwydd ei fod yn waled arall mewn gwirionedd.
-
Diogelwch eich cardiau talu digyffwrdd drwy fuddsoddi mewn llewys neu waledi arbennig fel na all eraill eu rhyng-gipio, ac fel na fyddwch chi'n eu defnyddio ar ddamwain er mwyn talu am eich pwrcasiadau eich hun neu bobl eraill.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen a deall telerau ac amodau eich banc fel eich bod yn siŵr pwy sy'n atebol os bydd taliad anghywir neu os caiff diogelwch ei danseilio.
-
Darllenwch eich datganiadau banc yn ofalus er mwyn sicrhau nad oes taliadau wedi'u cymryd o'ch cyfrif heb yn wybod i chi na heb eich caniatâd, naill ai yn fwriadol neu ar ddamwain.
Os bydd gennych broblem
I ddechrau, cysylltwch â'r banc neu ddarparwr cerdyn perthnasol.